home

      Croeso next

 

Fel person proffesiynol sy'n gweithio yn y maes iechyd mae gennych gyfle unigryw i dargedu aelodau o'r cyhoedd sydd ag ychydig o gysylltiad neu ddim cysylltiad â negeseuon hybu iechyd, ac i ategu negeseuon i'r rhai hynny sydd â chysylltiad.

Mae'r canllaw hwn wedi'i lunio i'ch cynorthwyo wrth ddewis pa daflenni i'w defnyddio. Bydd yn eich helpu i asesu'r pwyntiau allweddol sy'n sicrhau bod taflen yn "gweithio" ac yn hawdd ei deall.

Awgrymwn eich bod yn cwblhau'r tudalen "Sut i ddechrau" (y dudalen nesaf) ar gyfer pob taflen yr ydych chi'n penderfynu ei defnyddio fel taflen wybodaeth gyffredinol ar gyfer y cyhoedd. Wedyn, gellwch ei phrintio neu gadw'r sgôr derfynol ar ôl cwblhau'r prawf.

Cofiwch fod taflen yn gweithio orau pan gaiff ei defnyddio i ategu cyngor llafar.